Strategaeth TG

Diweddarwyd y dudalen: 03/11/2021

Strategaeth Trawsnewid Digidol

Mae’r Strategaeth Trawsnewid Digidol yn cyflwyno dyheadau a blaenoriaethau digidol strategol y Cyngor ac yn amlinellu’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin Ddigidol. Mae technoleg yn treiddio mwy a mwy i'r holl sectorau ac yn dod yn rhan o lawer o agweddau ar ein bywydau. Mae angen strategaeth trawsnewid digidol ar Gyngor Sir Caerfyrddin oherwydd gall technoleg ddigidol drawsnewid y Sir a bywydau pobl yn ogystal â chreu arbedion tymor hir ar gyfer y Cyngor.

Strategaeth Trawsnewid Digidol 2017-2020 (.pdf)

Strategaeth Technoleg Ddigidol

Mae’r Strategaeth Technoleg Ddigidol yn cyflwyno blaenoriaethau a dyheadau’r Awdurdod o ran technoleg ddigidol yn ystod y 3 blynedd nesaf. Ei diben yw nodi’r technolegau a’r mentrau allweddol fydd yn hwyluso ac yn ategu gweledigaeth Strategaeth Trawsnewid Digidol bresennol a throsfwaol y sefydliad a’r modd y caiff ei rhoi ar waith. Cynulleidfa’r strategaeth hon yw arweinwyr y sefydliad, aelodau etholedig, ein cwsmeriaid a’n staff.

 Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018-2021 (.pdf)

Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion

Mae Is-adran Gwasanaethau TGCh Sir Gaerfyrddin yn darparu cymorth helaeth a gwasanaethau i bob ysgol ar draws yr Awdurdod. Hon fydd Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion cyntaf erioed Sir Gaerfyrddin sy'n gosod ein gweledigaeth ac sy'n cael ei thanategu gan ein hegwyddorion cyffredinol a meysydd blaenoriaeth allweddol er mwyn darparu gwasanaethau TGCh i ysgolion.

Mae defnydd yr ysgol o dechnoleg yn hyrwyddo dysgu arloesol gan fyfyrwyr digidol hyderus, a ysbrydolwyd gan addysgu medrus a chreadigol. Mae Fframwaith Cymhwysedd Digidol Llywodraeth Cymru ar wahân i TGCh. Mae cymhwysedd digidol yn un o dri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd; mae'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau digidol y gellir eu cymhwyso i amrywiaeth eang o bynciau a senarios y mae modd eu trosglwyddo i'r byd gwaith

Mae'r Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion hon sydd wedi'i hariannu llawn ac sy’n cynnwys yr adnoddau llawn yn amlinellu cyfeiriad y ddarpariaeth TGCh mewn ysgolion dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau bod gan ysgolion y dechnoleg briodol i gyflawni'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Y gynulleidfa ar gyfer y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion yw ein hysgolion, athrawon a staff, aelodau etholedig ac arweinyddiaeth yr Awdurdod.

Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018-2021 (.pdf)