Rhaglenni Office 365

Diweddarwyd y dudalen: 18/10/2022

Oeddech chi'n gwybod, yn ogystal â'r rhaglenni cyffredin fel Word, Excel ac Outlook, fod nifer o raglenni eraill Office 365 ar gael i'ch helpu i gydweithio â'ch cydweithwyr, fel Forms, Planner neu Sway?

Mae gan Microsoft Ganllawiau Cychwyn Cyflym Office sy'n eich helpu chi i ddysgu am raglenni, gan gynnwys Forms, Planner a Sway. Hefyd, mae canllawiau defnyddwyr, fideos a chymorth gan Microsoft ar raglenni fel Outlook, Teams, Excel a Word, sydd i'w gweld ar Llwybrau Dysgu Microsoft.

Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau digidol Office 365 drwy ddysgu, gwella neu ddiweddaru eich gwybodaeth? Mae Dysgu a Datblygu wedi llunio adran Cefnogi eich Sgiliau Digidol a fydd yn eich helpu i ddechrau arni. 

Cofiwch y bydd angen i unrhyw adnoddau y byddwch yn eu datblygu gan ddefnyddio Office 365 gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau ynghylch meysydd fel y Gymraeg, hygyrchedd, diogelwch, a pholisïau perthnasol eraill. 

Power BI – nodyn ar drwyddedu

I ddatblygu a rhannu adroddiadau gan ddefnyddio Power BI (h.y. i ymgorffori eich adroddiadau a'ch dangosfyrddau o fewn safleoedd Teams neu eu rhannu gyda sefydliadau partner), bydd angen i chi brynu trwydded Power BI Pro. Gellir prynu trwydded drwy fewngofnodi i Gais Pwrcasu drwy. Borth Hunanwasanaeth y Ddesg Gymorth TG.  

Dechreuwch gyda Power BI Desktop

Prosiectau Trawsnewid Digidol

Bwriedir i raglenni Office 365 gael eu datblygu a'u cynnal gan swyddogion drwy ddefnyddio'r adnoddau a nodir uchod, yn hytrach na gan staff TG.

Fodd bynnag, os oes arnoch angen adnodd TG, bydd angen i chi gyflwyno cais mynegi diddordeb. Bydd mynegiannau o ddiddordeb yn cael eu hasesu a'u blaenoriaethu gan eich adran yn erbyn prosiectau adrannol y cytunwyd arnynt, yn amodol ar gapasiti TG.  

Mae rhagor o wybodaeth am y Gais Mynegi Diddordeb