Gosodwch meddalwedd eich hun

Diweddarwyd y dudalen: 03/11/2021

Efallai eich bod wedi sylwi ar yr eicon 'Software Center' yn ymddangos ar eich bwrdd gwaith yn ddiweddar. Mae'n bosibl eich bod hyd yn oed wedi ei ddefnyddio i ddiweddaru i Office 2013 Professional yn dilyn e-bost gan y Gwasanaethau TG. Yn ogystal â hyn, bellach mae modd i chi ddefnyddio'r Software Center i osod cymwysiadau eraill sydd eu hangen arnoch.

Pam y dylwn ddefnyddio'r Software Center?

Er mwyn arbed amser i'ch hun a'ch galluogi i gael y feddalwedd sydd ei hangen arnoch yn gyflym i gyflawni eich gwaith. Does dim angen cofnodi galwad gyda'r Ddesg Gymorth TG, mae'r Software Center yn gweithredu 24/7 a gellir ei ddefnyddio yn y swyddfa neu wrth weithio'n ystwyth.

Sut ydw i'n defnyddio'r Software Center?

Chwiliwch am yr eicon Software Center ar eich bwrdd gwaith a chlicio ddwywaith arno er mwyn ei lansio.

Byddwch yn cael eich tywys i'r tab Cymwysiadau, lle bydd modd i chi weld eiconau ar gyfer yr holl feddalwedd sydd ar gael i chi, gan gynnwys pob meddalwedd rydych wedi ei gosod (neu y mae'r adran TG wedi'i gosod ar eich rhan) yn y gorffennol. Rhowch glic ar y cymhwysiad sydd ei angen arnoch, yna cliciwch ar y botwm 'Install' glas ar y dudalen nesaf. Bydd y feddalwedd yn cael ei gosod yn dawel yn y cefndir a byddwch yn cael eich hysbysu pan fydd y gosodiad wedi'i gwblhau.

Beth os na allaf ddod o hyd i'r feddalwedd sydd ei hangen arnaf?

Ar hyn o bryd, mae'r Gwasanaethau TG wrthi'n profi pob meddalwedd sy'n cael ei defnyddio ar ein rhwydwaith corfforaethol. Os nad oes darn o feddalwedd ar gael ar hyn o bryd drwy'r Software Center, mae'n debygol y bydd ar gael yn y dyfodol agos.

Os oes angen i chi osod meddalwedd nad yw ar gael ar hyn o bryd, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG a byddwn yn gallu ei gosod ar eich rhan.