Adroddiadau Blynyddol Cynghorydd
Diweddarwyd y dudalen: 09/08/2022
Prif ddiben adroddiadau blynyddol yw rhoi manylion i’ch etholwyr am eich gweithgareddau allweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Er mai’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddarparu’r dull ar gyfer cyhoeddi adroddiadau blynyddol, y cynghorwyr unigol sy’n gyfrifol am y cynnwys. Felly, dylai’r cynnwys:
- bod yn ffeithiol ac yn anwleidyddol;
- cael ei ysgrifennu gan ddefnyddio'r amser gorffennol;
- cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Ddeddf Diogelu Data a Chôd Ymddygiad yr Aelodau;
- peidio ag enwi unigolion, neu alluogi unigolion i gael eu hadnabod;
- peidio â chael ei ddehongli fel petai’n beirniadu aelod arall;
Penderfyniad yr aelod etholedig yn gyfan gwbl yw faint o wybodaeth i’w gynnwys ym mhob adran. Fodd bynnag, argymhellir nad yw’r adroddiad yn fwy na 2 dudalen A4.
Dylid dychwelyd adroddiadau wedi eu cwblhau at yr Uned Gwasanaethau Democrataidd i’w gwirio. Os bydd unrhyw bryderon ynghylch cynnwys yr adroddiad, cysylltir â chi i drafod hyn. Wedyn bydd yr adroddiad yn cael ei anfon ymlaen at yr Uned Gyfieithu.
Pan fydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg yn barod, byddant yn cael eu hychwanegu at eich tudalen ar wefan y Cyngor. Nodwch y bydd y dolenni i’r adroddiad blynyddol yn cael eu dileu yn ystod y cyfnod purdah ar gyfer etholiadau'r cynghorau lleol.
Mwy ynghylch Democratiaeth