Gydnabyddiaeth Ariannol I Aelodau

Diweddarwyd y dudalen: 09/08/2022

Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn gyfrifol am bennu’r lwfansau sy’n daladwy i aelodau etholedig prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Tân ac Achub, a Chynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru.

Mae’r Panel wedi cynhyrchu ffilm ar Gydnabyddiaeth Ariannol I Gynghorwyr, sy'n cynnwys yr hyn y gallwch ei hawlio, fel cael ad-daliad am gostau gofal plant neu bobl hŷn sy’n ddibynnol arnoch yn ogystal â chostau teithio.  Gallwch gwylio'r ffilm trwy dilyn y ddolen ganlynol:

https://youtu.be/ooJFBXsUVvg