Adroddiadau Blynyddol Cynghorydd

Diweddarwyd y dudalen: 09/08/2022

Prif ddiben adroddiadau blynyddol yw rhoi manylion i’ch etholwyr am eich gweithgareddau allweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Er mai’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddarparu’r dull ar gyfer cyhoeddi adroddiadau blynyddol, y cynghorwyr unigol sy’n gyfrifol am y cynnwys. Felly, dylai’r cynnwys:

  • bod yn ffeithiol ac yn anwleidyddol;
  • cael ei ysgrifennu gan ddefnyddio'r amser gorffennol;
  • cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Ddeddf Diogelu Data a Chôd Ymddygiad yr Aelodau;
  • peidio ag enwi unigolion, neu alluogi unigolion i gael eu hadnabod;
  • peidio â chael ei ddehongli fel petai’n beirniadu aelod arall;

Penderfyniad yr aelod etholedig yn gyfan gwbl yw faint o wybodaeth i’w gynnwys ym mhob adran. Fodd bynnag, argymhellir nad yw’r adroddiad yn fwy na 2 dudalen A4.

Dylid dychwelyd adroddiadau wedi eu cwblhau at yr Uned Gwasanaethau Democrataidd i’w gwirio. Os bydd unrhyw bryderon ynghylch cynnwys yr adroddiad, cysylltir â chi i drafod hyn. Wedyn bydd yr adroddiad yn cael ei anfon ymlaen at yr Uned Gyfieithu.

Pan fydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg yn barod, byddant yn cael eu hychwanegu at eich tudalen ar wefan y Cyngor. Nodwch y bydd y dolenni i’r adroddiad blynyddol yn cael eu dileu yn ystod y cyfnod purdah ar gyfer etholiadau'r cynghorau lleol.