Llawlyfr Cynghorwyr

Diweddarwyd y dudalen: 31/08/2023

Bwriedir y Llawlyfr Cynghorwyr hwn i roi i’r holl Gynghorwyr, yn enwedig y rhai sydd newydd eu hethol, wybodaeth a chymorth sy’n debyg o’u helpu wrth wneud y canlynol:

  • cyflawni eu dyletswyddau fel Cynghorydd
  • dod o hyd i’r ffordd o gwmpas gwahanol swyddfeydd y cyngor, lleoliadau ar gyfer cyfarfodydd ac yn y blaen; a
  • darparu gwybodaeth bwysig sy’n rhoi cyflwyniad cyffredinol i waith y Cyngor Sir.

Mae’r Llawlyfr yn canolbwyntio ar agweddau allweddol o waith y Cyngor ond, wrth gwrs, nid yw’n gallu ateb yr holl gwestiynau na rhoi’r holl wybodaeth y bydd ei hangen ar Gynghorwyr. Ochr yn ochr â hyn ceir rhaglen sefydlu a datblygu gynhwysfawr ar gyfer yr aelodau, a fydd yn cynnwys cymorth gyda Thechnoleg Gwybodaeth (TG). Bydd swyddogion o holl adrannau’r Cyngor yn rhan o hyn, a bydd ar ffurf cyflwyniadau, grwpiau ffocws, seminarau, chwarae rôl a chyfryngau dysgu eraill.

 

Lawrlwythwch gopi o'r Llawlyfr Cynghorwyr