Mentora a Hyfforddiant

Diweddarwyd y dudalen: 27/09/2021

Mae rôl yr aelod etholedig yn un gymhleth a heriol. Mae angen cefnogaeth a datblygiad ar bob aelod, o'r rhai sydd newydd eu hethol i'r rhai mwy profiadol, wrth ymateb i sefyllfaoedd newydd neu rai sy'n heriol yn bersonol. Mae mentora yn gyfle datblygu arall sydd gan aelodau a all ddiwallu'r anghenion hyn.


Yn y gorffennol mae aelodau wedi gwneud trefniadau mentora anffurfiol ymysg ei gilydd, weithiau gyda chefnogaeth swyddogion neu grwpiau gwleidyddol i hwyluso hyn. Os oes angen cymorth arnoch i ddod o hyd i Fentor, cysylltwch â'r Uned Gwasanaethau Democrataidd a fydd yn gallu helpu.