Trosolwg a Chraffu Effeithiol
Diweddarwyd y dudalen: 27/09/2021
Mae cyfraniad trigolion lleol, sefydliadau a phartneriaid yn y gymuned yn rhan bwysig o broses graffu Sir Gaerfyrddin ac mae ein Cynghorwyr wedi ymrwymo i ymateb i sylwadau a phryderon trigolion.
Cymryd rhan yn y broses graffu yw un o'r ffyrdd gorau o ddylanwadu ar y penderfyniadau a wneir yn y Cyngor, gan y bydd Cynghorwyr yn cael clywed am eich profiadau yn uniongyrchol. Gallwch gymryd rhan yn y gwaith craffu yn y Cyngor mewn nifer o ffyrdd:
- Mynychu cyfarfod Craffu
- Cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn y broses graffu
- Awgrymu pwnc i'w adolygu · Cyfrannu tystiolaeth ar gyfer adolygiadau craffu
I gael gwybod mwy am ein proses graffu cliciwch ar y ddolen isod:
Mwy ynghylch Democratiaeth