Trosolwg a Chraffu Effeithiol

Diweddarwyd y dudalen: 27/09/2021

Mae cyfraniad trigolion lleol, sefydliadau a phartneriaid yn y gymuned yn rhan bwysig o broses graffu Sir Gaerfyrddin ac mae ein Cynghorwyr wedi ymrwymo i ymateb i sylwadau a phryderon trigolion.

Cymryd rhan yn y broses graffu yw un o'r ffyrdd gorau o ddylanwadu ar y penderfyniadau a wneir yn y Cyngor, gan y bydd Cynghorwyr yn cael clywed am eich profiadau yn uniongyrchol. Gallwch gymryd rhan yn y gwaith craffu yn y Cyngor mewn nifer o ffyrdd:

  • Mynychu cyfarfod Craffu
  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn y broses graffu
  • Awgrymu pwnc i'w adolygu · Cyfrannu tystiolaeth ar gyfer adolygiadau craffu

I gael gwybod mwy am ein proses graffu cliciwch ar y ddolen isod:

Democratiaeth (ModernGov)