Arwain a Rheoli Newid
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Pob rheolwr sy'n rhagweld y bydd angen iddo/iddi arwain a/neu reoli newid cadarnhaol yn y gweithle.
Beth yw'r amcanion?
Bydd y diwrnodau dysgu yn cyflwyno cymysgedd o theori ac ymarfer a fydd yn edrych ar y camau yn y broses newid.
Lefel Unigol
- Deall rôl tuedd a chanfyddiad o ran rheoli newid.
- Defnyddio ymwybyddiaeth emosiynol a gwytnwch er mwyn helpu i ddeall y broses newid.
Lefel Tîm
- Archwilio ymateb unigol ac mewn grŵp i newid
- Edrych ar ddulliau arweinyddiaeth a rheolaeth sy'n hwyluso newid cadarnhaol gan gynnwys effaith pŵer a pherthnasoedd.
Lefel Drefniadaethol
- Defnyddio dulliau gwelliant parhaus ac offer ymarferol i gefnogi'r broses newid.
- Defnyddio data i roi gwybod am y broses newid.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Mae'r cwrs hwn yn rhan o Fframwaith Arweinyddiaeth y Cyngor.
Mae Arwain a Rheoli Newid yn rhoi cyfle ichi ystyried sut i ymgysylltu â phobl, deall a chydweithio er mwyn hyrwyddo newid effeithiol.
Hyd y cwrs:
2 ddiwrnod
Cost:
Ddim yn berthnasol
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk