Arwain Pobl Drwy Newid: Dull Seicoleg
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
- Unrhyw un sy'n ymwneud â chefnogi staff drwy newid
- Unrhyw un sydd â diddordeb mewn seicoleg rheoli newid
Beth yw'r amcanion?
Dull seicoleg o ddeall ymateb pobl i newid a sut i'w harwain yn effeithiol drwyddo.
Erbyn diwedd y sesiwn dylech fod yn gallu gwneud y canlynol:
- Deall gwahanol fathau o newid
- Deall ymatebion seicolegol pobl i newid (gwybyddol, cymdeithasol, cyfathrebu)
- Nodi camau ymarferol i arwain pobl drwy newid yn effeithiol
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Mae’r cwrs hwn yn ein helpu i ddeall newid fel mwy na phroses yn unig.
Trwy ddeall seicoleg sut a pham mae pobl yn ymateb i newid, gallwn gefnogi ac arwain staff yn well trwy newid.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
2 Awr
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk