Cam I Dangosydd Math Myers-Briggs (MBTI) – Proffilio Personoliaeth
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Unigolion sy'n awyddus i archwilio eu math o bersonoliaeth er mwyn datblygu eu hunain.
Beth yw'r amcanion?
Mae dull Dangosydd Math Myers-Briggs yn helpu pobl i:
- Ddysgu am eu hunain, a deall ble maent yn sefyll ar fframwaith sy'n disgrifio'r mathau o bersonoliaeth wahanol mewn ffyrdd cadarnhaol ac adeiladol
- Gwerthfawrogi pwysigrwydd y gwahaniaethau rhwng pobl, a deall sut y gall mathau gwahanol o bersonoliaeth weithio mewn ffyrdd sy'n gweddu i'w gilydd.
Cytunir ar nodau penodol pob unigolyn, ond gallant gynnwys:
- Gwella cydberthnasau gwaith
- Datblygu eich arddull arwain
- Gwella cyfathrebu
- Defnyddio strategaethau datrys problemau
- Helpu i reoli newid
- Deall ymadawaith i straen.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd y mesur o lwyddiant yn dibynnu ar y nodau blaenorol, a dylid cadarnhau hyn ar ddechrau'r broses.
Hyd y cwrs:
1.5 awr i ddechrau, mewn sesiwn un i un, a'r posibilrwydd o gael mwy o hyfforddiant yn ddibynnol ar nod y sesiwn.
Cost:
£95.00 (ar gyfer yr holiadur ar-lein a'r dogfennau ategol)
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk