Cyfarfodydd ar-lein Llwyddiannus
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae'r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol am gynnal cyfarfodydd ar-lein, o gyfarfodydd tîm i roi gwybodaeth a chyfarfodydd un-i-un i gyfarfodydd mwy ffurfiol â phartneriaid.
Beth yw'r amcanion?
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch wedi cael y cyfle i wneud y canlynol:
- Edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi gweithio'n dda yn eich cyfarfodydd ar-lein a pha heriau yr ydych wedi'u hwynebu
- Edrych ar y Canllawiau Arfer Da ac Ymddygiad mewn Cyfarfodydd
- Ystyried effaith cyfarfodydd ar-lein ar wahanol bobl
- Ystyried unrhyw ddatblygiad ychwanegol a fyddai o gymorth i chi.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Mae llawer ohonom wedi gorfod ymateb i'r her o gynnal cyfarfodydd ar-lein. Mae'r sesiwn hon wedi'i chynllunio i'ch helpu i gynnal eich cyfarfodydd yn hyderus. Bydd yn rhoi cyfle i chi edrych yn ôl ar eich cyfarfodydd (yr hyn sydd wedi llwyddo a'r hyn sydd wedi methu), adolygu arferion da a dysgu gydag eraill drwy drafodaeth.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1.5 awr
Cost:
Dim tâl
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk