ILM lefel 3: Tystysgrif mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Os ydych yn is-reolwr neu'n dyheu am fod yn un, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu a deall eich rôl a'ch helpu i gymhwyso egwyddorion a dulliau o fewn eich rôl a datblygu fel arweinydd.

Mae'r derbyniad nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer mis Medi 2024.  Defnyddiwch y ffurflen Mynegi Diddordeb hon i gofrestru eich diddordeb erbyn dydd Gwener 2 Awst 2024 12pm. 

 

Beth yw'r amcanion?

Mae'r cwrs yn rhoi egwyddorion sylfaenol rheolaeth i chi ac mae'n sylfaen dda i unigolion sy'n dymuno symud ymlaen ymhellach yn eu gyrfa.

Mae unedau dysgu yn cynnwys:

  • Deall arweinyddiaeth
  • Datrys problemau a gwneud penderfyniadau
  • Deall sut i ysgogi i wella perfformiad
  •  Deall rôl rheolwyr er mwyn gwella perfformiad rheolwyr
  •  Rheoli risg yn y gweithle
  • Cynllunio newid yn y gweithle

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn rhoi egwyddorion sylfaenol rheolaeth i chi ac mae'n sylfaen dda i unigolion sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa.

  • Byddwch yn cael sylfaen gadarn i drefnu, rheoli ac ysgogi eich timau
  • Ennill hyder yn eich gallu i berfformio yn eich rôl
  • Dysgu am offer a thechnegau i ddatblygu eich hun fel arweinydd
  • Ennill cymhwyster cenedlaethol i gydnabod eich galluoedd a'ch profiad

Mae gan fyfyrwyr fynediad at ddeunyddiau dysgu trwy lyfrgell ategol Google Classrooms a llyfrgell ddigidol y coleg. Yn ogystal, maent wedi dyrannu cymorth tiwtor a thiwtorialau penodedig un i un i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.

Dull darparu:

Dull cyfunol

Hyd y cwrs:

1 Flwyddyn Academaidd

Cost:

Dim