ILM lefel 5: Diploma mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at reolwyr canol newydd a darpar reolwyr canol ac yn ddelfrydol ar gyfer datblygu sgiliau a phrofiad i baratoi ar gyfer cyfrifoldebau rheoli uwch.

Mae'r derbyniad nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer Ionawr 2025 a bydd y broses ymgeisio yn dechrau ym mis Tachwedd 2024.

Beth yw'r amcanion?

Byddwch yn dysgu defnyddio technegau rheoli craidd i ysgogi canlyniadau gwell a datblygu eich gallu i arwain, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol yn ogystal â rheolaeth o ddydd i ddydd.

Mae unedau dysgu yn cynnwys:

  • Deall rôl rheolwyr er mwyn gwella perfformiad rheolwyr
  • Rheoli eich datblygiad proffesiynol parhaus eich hun
  • Dod yn arweinydd effeithiol
  • Datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol
  • Cyflwyno achos ariannol
  • Rheoli gwelliant
  • Arwain arloesedd a newid

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Fel dysgwr, byddwch yn cael sylfaen drylwyr yn eich rôl a'ch cyfrifoldebau ac yn achub ar y cyfle i atgyfnerthu a datblygu ymhellach y sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch ar y lefel hon.

Byddwch yn cyflawni'r canlynol:

  • Ennill y wybodaeth i gefnogi eich rôl rheolaeth ganol
  • Cymryd rheolaeth o'ch datblygiad personol
  • Deall newid yn y gweithle
  • Meithrin perthynas gadarnhaol a chynhyrchiol yn y gwaith
  • Ennill cymhwyster cydnabyddedig cenedlaethol

Dull darparu:

Dull cyfunol

Hyd y cwrs:

2 Flynedd Academaidd

Cost:

Dim