Bitesize - Darparu Adborth
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Unrhyw un sydd am ddysgu sut i roi adborth clir, negyddol a chadarnhaol.
Beth yw'r amcanion?
- Deall buddion adborth priodol
- Deall 4 rheol syml ar gyfer rhoi adborth
- Strwythuro sgwrs er mwyn rhoi adborth
- Ystyried sut i ddarparu hyn o bell
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Drwy roi adborth rheolaidd i'ch tîm byddwch yn datblygu cyfathrebu da a pharhaus. Dyma rai o’r manteision:
- Bydd sgyrsiau anodd yn dod yn haws
- Bydd perthnasoedd yn gwella
- Bydd amcanion a therfynau amser yn cael eu bodloni
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1.5 awr
Cost:
Dim cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk