Bitesize - Gosod Amcanion Perthnasol
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Rheolwyr sydd am ddeall manteision darparu eglurder o ran rolau a chyfrifoldebau.
Beth yw'r amcanion?
- Pam y dylid gosod amcanion
- Canlyniadau peidio â gosod amcanion
- Sut i osod amcanion
- SMART
- Pa mor aml?
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Heb amcanion sut ydyn ni'n
- gwybod beth rydym ni'n gyfrifol amdano?
- gweithio i gapasiti llawn?
- cynnal sgyrsiau am hyfforddiant?
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1.5 awr
Cost:
Dim cost
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.