Bitesize - Rheoli Amser a blaenoriaeth
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae'r rhaglen wedi'i llunio i gefnogi unrhyw un sy'n rhoi gwerth ar ei amser ac sydd am ddysgu sut i wneud popeth!
Beth yw'r amcanion?
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn gwybod y canlynol:
- Beth yw ystyr Rheoli Amser?
- Beth yw eich rhwystrau/pryderon personol?
- Sut i flaenoriaethu eich gwaith a chadw at derfynau amser
- Beth yw eich cylch perfformiad personol
- Sut i beidio â gohirio
- Sut i ddweud 'na’
- Ymarfer - goddefiadau a chamau i'w cofio
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd sgiliau rheoli amser da neu reoli blaenoriaethau yn eich helpu i gyflawni mwy mewn cyfnod byrrach o amser.
Mae pob mantais rheoli amser yn gwella agwedd arall ar eich bywyd.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1.5 awr
Cost:
Dim tâl
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.