Cynllunio ar gyfer Ymddeoliad Positif
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Unrhyw un sy'n ystyried ymddeol o fewn y 6 – 12 mis nesaf neu sy'n ystyried ymddeoliad cynnar neu hyblyg neu sy'n ymddeol oherwydd salwch.
Beth yw'r amcanion?
Helpu mynychwyr trwy’r cyfnod pontio o amgylchedd gweithio tuag at ymddeol.
- Codi ymwybyddiaeth ynghylch newidiadau mewn ffordd o fyw a/neu amgylchiadau ariannol a'r penderfyniadau sydd angen eu gwneud.
- Cynnig y wybodaeth a'r ffeithiau i alluogi mynychwyr i archwilio meysydd o ddiddordeb yn ehangach yn ystod eu hamser personol.
- Annog rhan fwy gweithredol yn ystod cynllunio, y tu allan i'r gweithdy hwn, er mwyn cael sicrwydd ariannol mwy hirdymor a ffordd o fyw iach yn y cyfnod ymddeol drwy gynyddu hyder a dealltwriaeth ariannol.
- Cyfle i ofyn am gyngor ariannol annibynnol (ymgynghoriad yn rhad ac am ddim, heb orfodaeth ar gais).*
* Yn unol â rheoliadau’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, mae Affinity Financial Awareness (AFA), ymgynghorydd ariannol annibynnol sydd wedi'i gofrestru ac yn cael ei reoli gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol i roi cyngor ariannol annibynnol, yn gyfrifol am unrhyw gyngor ariannol a roddir, ac nid eich cyflogwr. Ni chaiff eich cyflogwr argymell AFA.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
Hanner diwrnod
Cost:
Dim tâl
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk