Cynllunio ar gyfer Ymddeoliad Positif

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Unrhyw un sy'n ystyried ymddeol o fewn y 6 – 12 mis nesaf neu sy'n ystyried ymddeoliad cynnar neu hyblyg neu sy'n ymddeol oherwydd salwch.

Beth yw'r amcanion?

Helpu mynychwyr trwy’r cyfnod pontio o amgylchedd gweithio tuag at ymddeol.

  • Codi ymwybyddiaeth ynghylch newidiadau mewn ffordd o fyw a/neu amgylchiadau ariannol a'r penderfyniadau sydd angen eu gwneud.
  • Cynnig y wybodaeth a'r ffeithiau i alluogi mynychwyr i archwilio meysydd o ddiddordeb yn ehangach yn ystod eu hamser personol.
  • Annog rhan fwy gweithredol yn ystod cynllunio, y tu allan i'r gweithdy hwn, er mwyn cael sicrwydd ariannol mwy hirdymor a ffordd o fyw iach yn y cyfnod ymddeol drwy gynyddu hyder a dealltwriaeth ariannol.
  • Cyfle i ofyn am gyngor ariannol annibynnol (ymgynghoriad yn rhad ac am ddim, heb orfodaeth ar gais).*

* Yn unol â rheoliadau’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, mae Affinity Financial Awareness (AFA), ymgynghorydd ariannol annibynnol sydd wedi'i gofrestru ac yn cael ei reoli gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol i roi cyngor ariannol annibynnol, yn gyfrifol am unrhyw gyngor ariannol a roddir, ac nid eich cyflogwr. Ni chaiff eich cyflogwr argymell AFA.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

Hanner diwrnod

Cost:

Dim tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.