Datblygu Tîm
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Timau sy'n wynebu cyfnod o newid ac a fyddai'n elwa o weithio ar y cyd i gynllunio ar gyfer y dyfodol a chytuno ar flaenoriaethau.
Beth yw'r amcanion?
Byddwn yn cytuno â chi ar y nodau penodol er mwyn paratoi ar gyfer y sesiynau, ond gallai'r rhain gynnwys:
- Nodi'r hyn y mae'r staff a'r cwsmeriaid yn ei werthfawrogi fwyaf gan y gwasanaeth ar hyn o bryd
- Ble mae'r tîm yn dymuno cyrraedd? (nodi sut y byddant yn hoffi i'r gwasanaeth edrych ymhen 5 mlynedd)
- Pa gamau bydd angen i’r tîm eu cymryd i gyflawni hyn?
Sesiwn ymarferol yw hon sy'n arwain at greu cynllun gweithredu a ffordd ymlaen.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd y sesiwn hon yn cynnig cyfle i'ch tîm weithio gyda'i gilydd a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Hyd y cwrs:
Hanner - 1 diwrnod
Cost:
Rhad ac am ddim i'w gynnal. Bydd angen i'r tîm ddarparu lleoliad ac unrhyw luniaeth.
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk