Sgiliau Pendantrwydd

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Unrhyw un sydd am ddatblygu ei sgiliau pendantrwydd er mwyn cyfathrebu'n fwy effeithiol yn y gweithle.

Beth yw'r amcanion?

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd y dysgwr yn gallu:

  • diffinio ymddygiad goddefol, ymosodgar a phendant, a'r hyn sydd wrth wraidd/yn achosi'r ymddygiadau hyn
  • trafod pendantrwydd yn y gweithle a sefyllfaoedd anodd cyffredin, trwy drafodaeth dan arweiniad ac ystyried astudiaethau achos bach
  • disgrifio a defnyddio technegau cyfathrebu pendant sylfaenol er mwyn osgoi arddangos ymddygiad goddefol neu ymosodgar
  • deall technegau pendantrwydd perthnasol yn well er mwyn trafod a dylanwadu ar gydweithwyr ar bob lefel.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Erbyn diwedd y cwrs, bydd cynrychiolwyr yn fwy cymwys i gyfathrebu â phendantrwydd yn y gweithle ac ymdrin â sefyllfaoedd yn gadarnhaol pan fo gwrthdaro yn codi yn y gweithle.

Hyd y cwrs:

1 diwrnod

Cost:

£40

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk