Arfarniadau (Cydnabod. Tyfu. Gyda'n gilydd) - Sgyrsiau ar gyfer Twf

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Rhan gyntaf o Ddosbarth Meistr i Reolwyr sy'n cynnwys 2 ran: ar gyfer Rheolwyr a goruchwylwyr sy'n gyfrifol am gynnal arfarniadau.

Beth yw'r amcanion?

Erbyn diwedd y rhaglen dylech allu gwneud y canlynol:

Deall:

  • Diben arfarniad sy'n seiliedig ar gryfderau
  • Adborth cadarnhaol a chydnabod cryfderau: pam mae'n bwysig a sut i'w wneud
  • Sut i helpu staff i fyfyrio ar eu cryfderau eu hunain

Dysgu:

  • Fframio cadarnhaol
  • Cwestiynau hyfforddi

Gweithredu:

  • Defnyddio ein harfarniad 'Cydnabod. Tyfu. Gyda'n Gilydd'
  • Sut i gynnal arfarniad sy'n seiliedig ar gryfderau

 

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Deall ac ymarfer: sut i gynnal arfarniad sy'n seiliedig ar gryfderau.

Dull darparu:

Dull cyfunol

Hyd y cwrs:

2 Awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk