Arfarniadau (Cydnabod. Tyfu. Gyda'n gilydd) - Sgyrsiau Gonest
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Ail ran o Ddosbarth Meistr i Reolwyr sy'n cynnwys 2 ran: ar gyfer Rheolwyr a goruchwylwyr sy'n gyfrifol am gynnal arfarniadau.
Beth yw'r amcanion?
Erbyn diwedd y rhaglen dylech allu gwneud y canlynol:
Deall:
- Beth yw sgwrs onest?
- Egwyddorion sgyrsiau gonest
Cyflwyno:
- Fframio cadarnhaol
- Ymarfer adferol
- Hyfforddi tuag at ddatrysiad
Gweithredu:
- Sut i fynd i'r afael â pherfformiad gwael gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Deall ac ymarfer: sut i ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau i fynd i'r afael â materion perfformiad gwael gyda staff.
Dull darparu:
Dull cyfunol
Hyd y cwrs:
2 Awr
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.