Recriwtio Mwy Diogel
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Os ydych chi’n recriwtio staff neu wirfoddolwyr i weithio gyda phlant neu bobl ifanc, mae’n hanfodol eich bod chi’n creu diwylliant o recriwtio mwy diogel ac yn rhan o hynny, yn rhoi camau ar waith sy’n helpu i rwystro, gwrthod neu adnabod pobl allai niweidio plant.
Beth yw'r amcanion?
Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn, gaiff ei gynnal dros ddwy sesiwn hanner-diwrnod ar-lein yn edrych ar:
- Recriwtio Mwy Diogel a chyd-destun ehangach diogelu
- Ystadegau am gam-drin a phroffeil unigolion sy’n cam-drin
- Sut mae unigolion sy’n cam-drin yn gweithredu o fewn sefydliadau
- Nodweddion proses Recriwtio Mwy Diogel a chynllunio proses Recriwtio Mwy Diogel
- Gwneud y penderfyniad cywir: cyfweld a dethol
- Defnyddio gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- Gosod safonau ymddygiad derbyniol a chynnal diwylliant o wyliadwriaeth parhaus
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Gall Sglein eich helpu chi i wella eich gwybodaeth, datblygu eich sgiliau a chodi eich hyder er mwyn recriwtio’r unigolion cywir a chynnal diwylliant o wyliadwriaeth parhaus.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
2 sesiwn hanner diwrnod
Cost:
Dim tâl
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk