Cwrs Rheoli Diogelwch IOSH

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Er mwyn cefnogi iechyd, diogelwch a lles staff ac eraill yn eu meysydd cyfrifoldeb, dylai pob rheolwr fynychu cwrs Rheoli IOSH CCC yn ddiogel.

Beth yw'r amcanion?

Mae'r meysydd allweddol a gwmpesir yn ystod y pedwar diwrnod yn cynnwys:

  • Rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i allu ymgymryd â'ch rolau a'ch cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn llawn.
  • Gwella eich dealltwriaeth o'r risgiau iechyd, diogelwch a lles yn eich meysydd cyfrifoldeb.
  • Rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth i reoli iechyd, diogelwch a lles yn effeithiol trwy'r broses asesu risg.
  • Darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i wella diwylliant iechyd, diogelwch a lles yn eich meysydd cyfrifoldeb.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y cymhwyster hwn a gydnabyddir yn genedlaethol yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i reoli risg yn effeithiol yn eich meysydd cyfrifoldeb ac yn eich galluogi i gyfrannu'n llawn at nod CCC o leihau damweiniau a salwch sy'n gysylltiedig â gwaith.

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

Diwrnod 4

Cost:

£190

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk