Gweithdai Rheoli Straen ac Iechyd Meddwl yn y Gweithle
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Holl Reolwyr Pobl
Beth yw'r amcanion?
Er mwyn cynorthwyo rheolwyr i leihau straen ac absenoldeb salwch sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn eu meysydd gwasanaeth, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi trefnu rhaglen o weithdai “Rheoli Straen ac Iechyd Meddwl yn y Gweithle”. Anogir yn gryf dylai pob rheolwr fynychu'r gweithdai hyn.
Prif amcanion y gweithdai hyn yw:
- Gwella eich dealltwriaeth sbardunau ar gyfer straen - gwaith a phersonol, a'r effaith y gallant ei chael ar staff a’r gwasanaethau a ddarparwyd.
- Rhoi'r wybodaeth, yr offer a'r hyder sydd eu hangen arnoch i'ch galluogi i nodi, asesu a rheoli achosion straen yn eich meysydd gwasanaeth.
- Rhoi'r wybodaeth, yr offer a'r cymorth sydd eu hangen arnoch i allu darparu cymorth cadarnhaol ac effeithiol i staff ag iechyd meddwl gwael.
- Rhoi'r wybodaeth, yr offer a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch i ddatblygu a chynnal amgylchedd gwaith sy'n hwyluso a hyrwyddo lles cadarnhaol staff.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Mae’r meysydd dysgu a drafodwyd yn ystod y gweithdai hyn yn cynnwys:
- Diffinio straen sy'n gysylltiedig â gwaith a'i achosion a'i effeithiau ar unigolion a thimau
- Cynnal asesiadau risg straen gyda thimau ac unigolion
- Ymyriadau rheoli straen effeithiol
- Monitro effeithiau gweithredoedd ac ymyriadau rheoli straen
- Sut i adnabod a chefnogi staff ag iechyd meddwl gwael
- Astudiaethau achos straen ac iechyd meddwl yn y gweithle
Dull darparu:
Ystafell Ddosbarth
Hyd y cwrs:
Un diwrnod
Cost:
Dim cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk