Cwrs Hwylusydd Ar-lein
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Unrhyw un sy'n darparu hyfforddiant i staff ac sydd eisiau gwybod sut i wneud sesiynau dysgu ar-lein yn fwy deniadol.
Beth yw'r amcanion?
Yr amcanion
- Deall sut i baratoi a chynllunio digwyddiadau rhithwir deniadol
- Defnyddio ystod o dechnegau ac offer rhithwir i ymgysylltu cymaint â phosibl
- Sut mae defnyddio eich Llais yn effeithiol
- Cyfle i gyflwyno sesiwn fer gan ddefnyddio'r hyn rydych wedi'i ddysgu
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd y cwrs hwn yn eich helpu chi i ddeall pa sgiliau a gwybodaeth gefndir y bydd eu hangen arnoch i hwyluso sesiynau dysgu ar-lein byw llwyddiannus, cydweithredol a rhyngweithiol.
Hyd y cwrs:
2 awr y sesiwn
Cost:
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Gofynion arbennig:
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno dros 3 sesiwn fer drwy Teams ynghyd â modiwl e-Ddysgu y mae angen i chi ei gwblhau cyn sesiwn 1.
Nodwch y bydd angen i chi fod ar gael a bod yn bresennol ym mhob un o'r tri sesiwn.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.