Negeseuon E-bost
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Pob gweithiwr sy'n defnyddio negeseuon e-bost fel rhan o'i rôl i gyfathrebu a chydweithio â'i dîm.
Gellir addasu'r sesiynau hyn ar gyfer anghenion tîm penodol.
Beth yw'r amcanion?
- Deall sut i reoli nifer fawr o negeseuon e-bost a chyfarfodydd
- Deall sut i fod yn gyfrifol wrth anfon negeseuon e-bost
- Diffinio ymddygiad allweddol o ran negeseuon e-bost
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Dysgwch sut i reoli nifer fawr o negeseuon e-bost, sut i anfon negeseuon e-bost yn gyfrifol ac arferion da o ran negeseuon e-bost.
Hyd y cwrs:
1 awr 30 munud
Cost:
No Cost
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.