Asesu Gofalwyr dan Y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff gwaith cymdeithasol sy'n gweithio mewn timau sy'n cynnig gwasanaethau i oedolion.

Beth yw'r amcanion?

Bydd yr hyfforddiant hwn yn cynnig cyfle i gyfranogwyr ddysgu mwy am gynnal asesiadau gofalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Bydd yn rhoi sylw i'r canlynol:

  • Diffinio ac adnabod gofalwyr
  • Dyletswyddau i ofalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
  • Y broses asesu, gan gynnwys asesiadau cyfunol
  • Materion sy'n codi o ran cynnal asesiadau, gan gynnwys man preswylio gofalwyr a gwrthod asesiad
  • Meini Prawf
  • Diwallu anghenion gofalwyr a'r broses adolygu
  • Gwersi o gyfraith achosion a phenderfyniadau'r Ombwdsmon

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn cefnogi arferion effeithiol sy'n adlewyrchu gofynion deddfwriaethol mewn perthynas â chynnal asesiadau gofalwyr.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

2 Awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.