Atal Cam-drin Plant yn Rhywiol Ar-lein

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Pob gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant.

Beth yw'r amcanion?

Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn dysgu:

  • Y gwahanol fathau o bobl sy'n cam-drin ar y rhyngrwyd a'u nodweddion
  • Y nodweddion seicolegol tebyg a gwahanol sy'n amlwg rhwng troseddwyr ar y rhyngrwyd yn unig a throseddwyr cyswllt
  • Y gwahanol gymhellion ar gyfer troseddu ar y rhyngrwyd
  • Ymchwil ar aildroseddu a "thrawsgroesi"
  • Rhagdybiaethau a rhagfarnau wrth asesu troseddwyr ar y rhyngrwyd
  • Deall a rheoli risgiau penodol
  • Gwell ymwybyddiaeth o'r ystod o ymatebion posib pan ddaw troseddu ar y rhyngrwyd i'r amlwg a'r ffordd orau o ymateb

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn deall fel I atal cam-drin plant yn rhywiol ar-lein.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

Cyflwynir y cwrs hwn ar-lein mewn 2 sesiwn hanner diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.