Colled a Phrofedigaeth

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys ar draws y Gwasanaethau Plant

Beth yw'r amcanion?

Bydd Gweithwyr Cymdeithas yn:

  • Cael dealltwriaeth o'r broses alaru a'r modelau presennol sy'n helpu i
    ddeall galar a phrofedigaeth.
  • Deall yr effaith y caiff colled a phrofedigaeth ar deuluoedd.
  • Ystyried ffyrdd y gallwn gynorthwyo unigolion yn dilyn profedigaeth, drwy ein dealltwriaeth ein hunain o'r effaith y caiff colled.
  • Ystyried sgiliau sy'n berthnasol i'w rolau a'u sefydliad a fydd yn gwella'r modd y maent yn cyfathrebu ag unigolion sy'n galaru.
  • Datblygu ymwybyddiaeth o sefydliadau cymorth, a sut a phryd i gyfeirio unigolion at gymorth ychwanegol, gan gynnwys deall ffiniau ein rolau.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y cwrs hwn yn galluogi Gofalwyr Cymdeithasol i ddatblygu sgiliau i'w cynorthwyo nhw wrth gefnogi plant a'u teuluoedd o ran colled a phrofedigaeth.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

2.5 Awr

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.