Cyflwyniad i Awtistiaeth ac Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff gwaith cymdeithasol sy'n gweithio mewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol. Bydd lleoedd dros ben yn cael eu cynnig i staff yn y Timau Cymunedol Anableddau Dysgu, y Gwasanaeth Anableddau 0-25 a'r Tîm Camddefnyddio Sylweddau.

Beth yw'r amcanion?

Datblygu gwybodaeth y cyfranogwyr am Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol. Bydd y rhaglen hon yn datblygu gwybodaeth y cyfranogwyr am:

  • Y berthynas rhwng Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol, awtistiaeth a chyflyrau eraill
  • Pa mor gyffredin yw Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol a beth sy'n ei achosi
  • Yr ymennydd awtistig ac Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol
  • Anghenion synhwyraidd pobl ag Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol
  • Strategaethau ar gyfer gweithio gyda phobl sydd ag Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol
  • Deddfwriaeth a pholisi mewn fframwaith mewn perthynas ag awtistiaeth ac Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn cynorthwyo gweithwyr cymdeithasol i ymarfer yn effeithiol wrth gefnogi pobl ag Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Dydd

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.