Defnyddio Dadansoddi wrth Asesu i Lywio Ymyrraeth (Gweithdy Datblygu Blwyddyn Gyntaf yn Ymarfer)

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae'r cwrs hyfforddi hwn yn para diwrnod ac yn un o'r sesiynau hyfforddi gorfodol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso, yn ystod eu Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer. Mae hefyd yn rhan bwysig o'r trefniadau paratoadol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a fydd yn cwblhau'r Rhaglen Atgyfnerthu yn ystod eu hail flwyddyn o ymarfer.

Beth yw'r amcanion?

Bod y cyfranogwyr yn cael:

  • Gwybodaeth am y sgiliau sy'n angenrheidiol i ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chanlyniadau wrth gynnal amrywiaeth o asesiadau o fewn y gwasanaethau i oedolion ac i blant; rhoddir sylw i hyn drwy ystyried y cysylltiadau rhwng y broses asesu a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; cyfle i ddefnyddio dadansoddiad critigol i ddatblygu ymyriadau ac atebion gyda defnyddwyr y gwasanaethau a gofalwyr
  • Cyfle i drafod ymyriadau ac arfer barn broffesiynol mewn sefyllfaoedd sy'n fwyfwy cymhleth; i ystyried a gwerthuso ymarfer personol; rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro; asesu anghenion, risgiau ac amgylchiadau mewn partneriaeth â'r rhai sy'n gysylltiedig â hyn; cytuno ar gynlluniau rheoli risg i hyrwyddo annibyniaeth a chyfrifoldeb; y cyfle i ystyried goblygiadau risgiau a materion moesegol wrth wneud penderfyniadau proffesiynol

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd gan weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso well dealltwriaeth o'r cyd-destun ar gyfer arferion gwaith cymdeithasol. Bydd ganddynt y wybodaeth i ddatblygu sgiliau a strategaethau ar gyfer cydweithio â gweithwyr proffesiynol a gweithio mewn partneriaeth.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.