Dulliau systemig ymwybodol o drawma ar gyfer Pobl Ifanc sydd a phrofiad o ofal

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol yn Gwasanaethau Plant

Beth yw'r amcanion?

Deilliannau Dysgu:
Bydd y cwrs hwn yn darparu'r deilliannau dysgu canlynol i'r cyfranogwyr:

  • Dealltwriaeth o beth yw Trawma, beth allai ei achosi a sut i'w adnabod
  • Gwell dealltwriaeth o effaith trawma ar iechyd a llesiant emosiynol a chymdeithasol unigolyn a sut mae'n cysylltu â materion iechyd meddwl eraill, anhwylder personoliaeth ac ymlyniad oedolion.
  • Sut y gall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, GRRAACCEESS Cymdeithasol a sgriptiau bywyd waethygu trawma i bobl sy'n gadael gofal.
  • Sut y gall damcaniaethu a chwilfrydedd proffesiynol helpu gweithwyr proffesiynol i adnabod ac ymateb i drawma.
  • Dealltwriaeth o'r egwyddorion, y gwerthoedd a'r modelau allweddol sy'n sail i'r dull ymwybodol o drawma.
  • Sut i ddefnyddio dulliau sy'n seiliedig ar drawma i alluogi person ifanc i ymdopi â'i drawma a'i reoli er mwyn sicrhau nad yw'n rhwystr i ymgysylltu â gwasanaethau a chymorth.
  • Deall Pam y gall trawma gynyddu ymddygiadau peryglus a sut i gefnogi Pobl Ifanc i reoli eu risgiau eu hunain, gan ddefnyddio'r cysyniad o Ansicrwydd Diogel (Mason 1993).
  • Cyfle i fyfyrio'n feirniadol ar eich ymarfer eich hun a nodi datblygiadau sy'n cefnogi dull sy'n seiliedig ar drawma.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn datblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o weithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.