Grwp Tystiolaeth Ymarfer Sir Gaerfyrddin

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol a Rheolwyr Gwaith Cymdeithasol â diddordeb mewn ymarfer wedi ei gyfoethogi gan dystiolaeth.

Beth yw'r amcanion?

  • I ddysgu mwy am Brosiect Arweinwyr Ymarfer gan gymrydorion presennol o Gyngor Sir Castell-nedd a Phort Talbot
  • I rannu syniadau am ddefnyddio canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol Dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal mewn ymarfer
  • Dysgu am amryw o ddulliau i gefnogi gweithwyr cymdeithsol i ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth mewn ymarfer
  • Cyfle i rannu dysgu am ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth mewn ymarfer rhwng Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Rydym yn gyffrous iawn i'ch gwahodd i sesiwn Tystiolaeth Ymarfer Sir Gaerfyrddin ar y 7fed o Dachwedd 2023 yn llyfrgell y dref yng Nghaerfyrddin.
Darperir cinio rhwng 1 a 2yh, ac yna sesiwn a fydd yn canolbwyntio ar brosiect gan gydweithwyr o Gastell-nedd Port Talbot, a’i taith hwythau o gynyddu'r defnydd o ymchwil a thystiolaeth mewn ymarfer o fewn y sir.
Ceir cyflwyniadau yn y sesiwn gan:
Rachel Scourfield – Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol, Castell-nedd Port Talbot/Cymrawd SCYI
Julie Vile - Hwylusydd Gweithredu, Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth (Cymru)
Emma Taylor-Hill – Arweinydd Ysgogi Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru
I roi rhywfaint o gyd-destun i chi, mae Rachel a'i chydweithwyr wedi derbyn cyllid drwy'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd ers 12 mis. Mae hyn wedi eu galluogi i ddod yn Arweinwyr Ymchwil Ymarfer yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Pwrpas eu gwaith yw cefnogi tri thîm peilot i gynyddu eu gallu i gael mynediad at ymchwil a'i ddefnyddio mewn ymarfer. Mae hyn yn cynnwys dulliau ymarferol iawn, megis cynnal sesiynau mapio achosion, sy'n canolbwyntio ar achosion cymhleth. Nod y rhain yw cefnogi ymarferwyr i archwilio ymchwil a'i ddefnyddio i ddatod rhai o'r cyfyng-gyngor a'r cymhlethdodau ymarfer yn eu hachosion.
Ynghyd â chefnogaeth ac arweiniad gan Julie, maent hefyd wedi bod yn defnyddio ac yn rhannu eu profiadau o ddefnyddio canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth. Mae hyn wedi eu galluogi i wella cydweithio â chydweithwyr o ddisgyblaethau eraill ac mae wedi eu galluogi i gyflawni canlyniadau gwell i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau.

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

3.5 Awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.