Gwaith Stori Bywyd gydag Oedolion

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Integredig

Beth yw'r amcanion?

Bydd y cwrs yn darparu'r deilliannau dysgu canlynol:

  • Deall gwerth Gwaith Stori Bywyd mewn amrywiaeth o gyd-destunau a lleoliadau gofal cymdeithasol gydag oedolion ac oedolion hŷn, gan gynnwys ymwybyddiaeth o sut mae'r ymyrraeth hon yn cyd-fynd â dull ymarfer naratif sy'n seiliedig ar gryfder.
  • Deall gwerth modelau amrywiol o gasglu a chyflwyno gwybodaeth, yn seiliedig ar ddewisiadau a dulliau cyfathrebu'r unigolyn.
  • Gwybod sut i ddehongli a gwneud y defnydd gorau o gyfleoedd yn y broses.
  • Gwella eich sgiliau wrth weithio'n uniongyrchol gydag oedolion o ran naratifau bywyd.
  • Gwybod sut i gyfathrebu ag oedolion ac oedolion hŷn a'u hemosiynau.
  • Dysgu sut i fynd i'r afael â thrawma a cholled gyda dealltwriaeth empathig a chydnabod lle mae angen atgyfeirio a mewnbwn arbenigol neu seicolegol.
  • Creu cynnyrch gwaith stori bywyd sy'n ddefnyddiol, yn werthfawr ac sy'n cynrychioli'r person.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd gan Weithwyr Cymdeithasol y wybodaeth a sgiliau Gwaith Stori Bywyd fel rhan o'u rôl.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.