Gwaith Uniongyrchol - Plant gyda Pryder

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol yn y Gwasanaeth Plant

Beth yw'r amcanion?

  • Deall beth yw gorbryder, beth sy'n ei achosi a'r gwahanol ffyrdd y gall ddod i'r amlwg mewn gwahanol blant o ystod o oedrannau, diwylliannau ac anghenion.
  • Deall y berthynas rhwng gorbryder ac anghenion ychwanegol.
  • Deall beth yw trawma, beth sy'n ei achosi a'r gwahanol ffyrdd y gall ddod i'r amlwg mewn gwahanol blant o ystod o oedrannau, diwylliannau ac anghenion.
  • Dysgu amrywiaeth o dechnegau sy'n gallu helpu plant gyda gorbryder a/neu drawma.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Rhoi gwybodaeth a'r sgiliau i gweithwyr cymdeithasol i gefnogi plant sydd a gorbryder.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Dydd

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.