Gweithio Unigol - Diogelwch Personol

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant.

Beth yw'r amcanion?

Diogelwch digidol ar-lein personol

  • Gwerthfawrogi sut y gellir mynegi gwrthdaro trwy ddefnyddio iaith y corff
  • Cydnabod arwyddion ac effeithiau alcohol, cyffuriau / toddyddion a materion iechyd meddwl a arddangosir gan unigolion
  • Defnyddio sgiliau cyfathrebu effeithiol ac iaith gorff gadarnhaol i wasgaru a rheoli sefyllfaoedd gwrthdaro
  • Strategaethau dianc / gadael diogel wrth ymgysylltu ag unigolion
  • Gwybod pryd a sut i gynhyrchu adroddiadau digwyddiadau effeithiol ar ôl bod yn rhan o sefyllfa heriol

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd gan Weithwyr Cymdeithasol y sgiliau a'r wybodaeth ar sut i gadw eu hunain yn ddiogel wrth weithio ar eu pennau eu hunain.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.