Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Eiriolaeth

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Os ydych chi'n cefnogi pobl sy'n wynebu rhwystrau i siarad drostynt eu hunain ac sy'n mynd trwy asesiadau gofal cymdeithasol a chymorth, cynllunio, adolygu, prosesau diogelu (fel oedolion neu rieni) neu gŵyn ddiweddar am unrhyw un o'r rhain, mae angen i chi feddu ar ddealltwriaeth o Wasanaeth Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol y 3 Sir.

Beth yw'r amcanion?

  • Dealltwriaeth o eiriolaeth broffesiynol annibynnol a sut y gallai fod o fudd i bobl
  • Pryd a sut i gyfeirio
  • Gwybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau eiriolaeth yn yr ardal

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Gallwch ddysgu mwy am y gwasanaeth lleol, rhad ac am ddim a chyfrinachol hwn - beth yw eiriolaeth annibynnol, sut y gall helpu'r bobl rydych chi'n eu cefnogi, a sut i gyfeirio at y gwasanaeth, yn ein sesiwn a'n gweithdy gwybodaeth ac ymwybyddiaeth.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.