Llinellau Cyffuriau

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant

Beth yw'r amcanion?

  • Deall "llinellau Cyffuriau" a "cogio" unigolion agored I niwed.
  • Deall y rhesymau pam mae pobl ifanc yn cario cyllyll a goblygiadau cyfreithiol hynny.
  • Deall y cysylltiad rhwng arfau a chyffuriau.
  • Adnabod y ffactorau bregsurwydd sy'n denu pobl ifanc i fod yn rhan o gangiau stryd.
  • Bod yn ymwybodol o ymlyniad i gangiau stryd, strwythur, aelodaeth, a risgiau cysylltiedig a gadael gang.
  • Bod yn ynwybodol a rol menywod ifanc mewn gangiau stryd, troseddau a secsbloetiaeth.
  • Deall perthnasedd cerddoriaeth "drill", y cyfryngau cymdeithasol a gemau fideo mewn ynddygiad treisgar.
  • Adnabod yr effaith ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl unigolion agored i niwed.
  • Adnabod a riportio pryderon diogelu.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn deall fel i ddelio gyda "Llinellau Cyffuriau" a "cogio" unigolion agored I niwed.

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.