Llyfrau Hanes Gwaith Taith Bywyd

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol Gofal Plant

Beth yw'r amcanion?

Gweithdy ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gwaith cymdeithasol ar draws y Timau Gofal Plant Hirdymor i edrych ar sut i lunio Llyfr Hanes Bywyd o ansawdd da ar y cyd ar gyfer plentyn mabwysiedig a phlentyn sy'n derbyn gofal.

Erbyn diwedd y cwrs bydd cyfranogwyr wedi:

  • Edrych ar ffyrdd o ddefnyddio Llyfrau Hanes Bywyd a deunyddiau gyda phlant.
  • Rhannu ffyrdd o lunio Llyfrau Hanes Bywyd a rhannu gwybodaeth anodd.
  • Dysgu am ddull Joy Rees o greu Llyfrau Hanes Bywyd.
  • Ystyried canfyddiadau gwaith ymchwil o ran barn plant a mabwysiadwyr o Lyfrau Hanes Bywyd.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Edrych ar sut y gall y dysgu hwn effeithio ar eich gwaith a lle gellir gwneud newidiadau i wella ymarfer ac ansawdd llyfrau hanes bywyd.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

2.5 Awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.