Sgiliau Llys ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Bydd staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn Timau Cymunedol Anableddau Dysgu a Thimau Atgyfeirio Canolog yn cael blaenoriaeth. Bydd ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol mewn timau eraill yn cael eu derbyn a'u cadw ar restr wrth gefn tan ar ôl y dyddiad cau.

Beth yw'r amcanion?

Mae'r cwrs yn rhoi trosolwg i gyfranogwyr o'r llys a'r prosesau cyfreithiol ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, cynghorion allweddol ar sut i baratoi tystiolaeth o ansawdd da a chael eu croesholi. Mae'r cwrs yn nodi camgymeriadau cyffredin a sut i'w hosgoi drwy ddefnyddio canllawiau arfer gorau. Bydd yr hyfforddiant yn cynnig cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ehangach mewn perthynas â'r canlynol:

  • Y gwahanol fathau o lys a sut y mae'r gyfraith yn cael ei chymhwyso
  • Pam a phryd y mae'n rhaid i weithwyr proffesiynol fynd i'r llys ym maes gofal cymdeithasol i oedolion
  • Termau a chysyniadau cyfreithiol allweddol
  • Beth yw tystiolaeth dda
  • Sut i baratoi i fynd i'r llys
  • Beth sy'n digwydd yn y llys
  • Camgymeriadau cyffredin a sut i'w hosgoi
  • Bod yn hyderus wrth roi tystiolaeth

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant yn cefnogi cyfranogwyr i ymarfer yn fwy effeithiol wrth lunio adroddiadau a mynd i'r llys.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.