Tystysgrif Lefel 3 mewn Gofal Dementia
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Anelir y cymwysterau hyn at amrywiaeth eang o rolau a meysydd galwedigaethol ar draws pob grŵp ac oedran defnyddwyr gwasanaeth, gan weithio mewn asiantaethau statudol (gan gynnwys y GIG), preifat a gwirfoddol. Byddai hyn yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn, sydd â diddordeb mewn gweithio mewn rôl ofalu ar gyfer pobl hŷn.
Beth yw'r amcanion?
I gyflawni'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Gofal Dementia rhaid i ddysgwyr gyflawni 21 credyd:
- Gorfodol (15 credyd)
- Dewisol (6 credyd
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn ond bydd angen i ddysgwyr fod o leiaf 16 mlwydd oed ac yn gweithio, gwirfoddoli neu ar leoliad ymarferol gan fod angen iddynt ddangos cymhwysedd mewn gwybodaeth a sgiliau. Rhaid cael CRB.
Mae pob uned yn cael ei hasesu'n fewnol. Mae asesiad yn galluogi arfer gweithle’r dysgwr i ddarparu tystiolaeth ar gyfer unedau unigol yn ogystal â'r cymhwyster cyfan. Gallai dulliau asesu gynnwys:
- Arsylwi uniongyrchol yn y Gweithle
- Portffolio o Dystiolaeth
- Trafodaeth Broffesiynol
- Aseiniadau Ysgrifenedig neu Dasg a osodwyd
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Gall dysgwyr symud ymlaen i’r Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion).
Hyd y cwrs:
6-12 mis
Cost:
Dim tâl
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk