Hyfywedd Meinwe (Gofal Pwysau)
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Yr holl staff gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau gofal preswyl, nyrsio a chartref.
Beth yw'r amcanion?
Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i wneud y canlynol:
- Disgrifio swyddogaethau'r croen
- Deall diffiniad briw pwyso
- Adnabod yn gywir y graddau gwahanol o niwed pwyso.
- Adnabod pa ffactorau risg sy'n cyfrannu at ddatblygu briwiau pwyso
- Nodi sut y gellir atal niwed pwyso.
- Egluro pwysigrwydd archwilio'r croen a gofal croen a sut y gall effeithio ar ddifrod i'r croen a briwiau pwyso.
- Bod yn ymwybodol o gyfyngiadau personol os bydd briw pwyso yn datblygu a sut i gael help ac arweiniad.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Galluogi'r dysgwr i nodi ffactorau risg o ran datblygu briw pwyso a deall sut i atal niwed pwyso i'r cleient sydd mewn perygl.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
2 Hwrs
Cost:
Am ddim
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.