Anaf Caffaeledig i'r Ymennydd a'r Ddeddf Iechyd Meddwl

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy sy'n cael eu cyflogi gan Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Beth yw'r amcanion?

Mae Anaf Caffaeledig i'r Ymennydd yn cyfeirio at unrhyw fath o niwed i'r ymennydd sy'n digwydd ar ôl genedigaeth. Bydd angen i'r Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy ystyried yr effaith ar sgiliau swyddogaeth weithredol a gwneud penderfyniadau, ynghyd â phroblemau iechyd meddwl posibl sy'n cyd-ddigwydd, wrth asesu. Bydd y cwrs yn cynnig y canlynol:

  • Gwybodaeth am yr anafiadau mwyaf cyffredin i'r ymennydd a'u cyflwyno yng nghyd-destun asesiadau’r Ddeddf Iechyd Meddwl.
  • Gwybodaeth am niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol a goblygiadau posibl o ran ymarfer
  • Archwilio'r anghenion cyfathrebu a'r effeithiau ar sgiliau swyddogaeth weithredol a gwneud penderfyniadau i unigolion y mae Anaf Caffaeledig i'r Ymennydd wedi effeithio arnynt
  • Archwilio sut y mae Côd Ymarfer y Ddeddf Iechyd Meddwl yn llywio asesiadau Deddf Iechyd Meddwl gyda'r grŵp hwn o unigolion
  • Archwilio materion asesu risg a rheoli risg
  • Ystyried materion allgau cymdeithasol ac arferion gwrthwahaniaethol

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant yn cefnogi ymarfer cyfranogwyr wrth wneud asesiadau o'r Ddeddf Iechyd Meddwl ar unigolion sydd wedi cael anaf i'r ymennydd.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Dydd

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.