Anhwylder Personoliaeth a'r Ddeddf Iechyd Meddwl

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP)

Beth yw'r amcanion?

Cefnogi Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy i archwilio dulliau arfer gorau wrth weithio gydag anhwylder personoliaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Yn benodol, y nodau fydd

  • adnewyddu a datblygu gwybodaeth am ystyr anhwylder personoliaeth a'i gyflwyniad
  • datblygu gwell dealltwriaeth o risg ac asesu risg gydag unigolion ag anhwylder personoliaeth
  • archwilio'r ffordd orau o ymateb ac ymwneud ag unigolion ag anhwylder personoliaeth
  • cynyddu gwybodaeth am weithio gydag anhwylder personoliaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn cefnogi Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy i ymarfer yn effeithiol wrth weithio gyda phobl sydd wedi cael diagnosis o Anhwylderau Personoliaeth.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Am Ddim

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.