Anhwylderau Bwyta a'r Ddeddf Iechyd Meddwl

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy a gyflogir gan Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Beth yw'r amcanion?

Mae asesu pobl ag anhwylderau bwyta o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn codi nifer o faterion cymhleth y mae'r hyfforddiant hwn yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Bydd yn cynnig y deilliannau dysgu canlynol.

  • Gwell ymwybyddiaeth o wahanol fathau o anhwylderau bwyta a sut y gallent ymgyflwyno.
  • Gwell dealltwriaeth o opsiynau triniaeth effeithiol.
  • Deall sut mae'r fframwaith cyfreithiol yn berthnasol i anhwylderau bwyta, gan gynnwys cyfraith achosion.
  • Deall sut y gallai ymgyflwyniad yr unigolyn effeithio ar y broses asesu a'r defnydd o'r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant hwn yn cynorthwyo Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy i ymarfer yn effeithiol wrth asesu defnyddwyr gwasanaethau sy'n wynebu'r broblem gymhleth hon.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Dydd

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.