Asesu Risg a Rheoli Pobl ag Anableddau Dysgu sydd Mewn Perygl o Gyflawni Troseddau Rhywiol

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff gwaith cymdeithasol mewn Timau Cymunedol Anableddau Dysgu ac yn y Tîm Pontio

Beth yw'r amcanion?

Datblygu gwybodaeth a sgiliau cyfranogwyr o ran cynnal asesiadau risg a chreu cynlluniau rheoli gyda phobl ag anableddau dysgu sydd mewn perygl o gyflawni troseddau rhywiol. Yn benodol, bydd yr hyfforddiant yn ymdrin â'r canlynol:

  • Ymwybyddiaeth o Droseddwyr Rhyw
  • Sut y mae troseddwyr rhyw yn gweithredu
  • Troseddwyr rhyw ag anableddau dysgu
  • Y gwahaniaeth rhwng diluddiannu ac ymddygiad troseddol a sut i ymateb iddynt
  • Asesu Risg
  • Rheoli Risg Gymunedol
  • Arferion da mewn hunanofal proffesiynol

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y cwrs yn cynorthwyo gweithwyr cymdeithasol i ymarfer yn effeithiol wrth weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth ag anableddau dysgu sydd mewn perygl o gyflawni troseddau rhywiol.

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.